XHIBIT
Statws Dyddiol Llysoedd XHIBIT - Rhestr Llysoedd
Beth yw XHIBIT..?
Mae XHIBIT yn gwella busnes beunyddiol pob Llys y Goron yng Nghymru ac yn Lloegr drwy ddarparu gwybodaeth am wrandawiadau i'r rheini y mae angen y wybodaeth honno arnynt yn ddiymdroi.
XHIBIT yw'r cam cyntaf tuag at gydgysylltu'r System Cyfiawnder Troseddol.
'Mae potensial y system hon yn aruthrol. Bydd yn chwyldroi'r ffordd rydym yn gweithio ac yn meddwl.' - Julie Puddy, Sefydliad Troseddwyr Ifanc EM Feltham
Beth mae XHIBIT yn ei wneud..?
Cyfrannu at gyfiawnder cyflymach, mae XHIBIT yn anfon gwybodaeth hanfodol am wrandawiadau o ystafell y llys at:
- Yr Heddlu
- Dioddefwyr a Thystion
- Y Gwasanaeth Prawf
- Gwasanaeth Erlyn y Goron
- Carchardai
- Llysoedd Ynadon
- Timau Troseddau Ieuenctid
Bydd cofnodion papur a logiau ysgrifenedig yn perthyn i'r gorffennol wrth i Glercod Llys gofnodi'r hyn sy'n mynd ymlaen yn Llys y Goron wrth iddo ddigwydd drwy ddefnyddio technoleg newydd ym mhob llys.
'Mae gallu gweld y wybodaeth ddiweddaraf drwy glicio ambell i fotwm yn wych.' - Sandra Gafney, Dirprwy Swyddog Rhestru
Manteision Posibl XHIBIT
- Diweddaru Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu yn gyflymach
- Llai o ohirio diangen
- Llai o wrandawiadau aneffeithiol
- Rheoli tystion yn well
- Dosbarthu gwybodaeth ar draws y System Cyfiawnder Troseddol yn fwy effeithlon
- Lleihau amseroedd aros twrneiod
- Gwella profiad dioddefwyr a thystion
- Gwneud hynt gwrandawiadau yn fwy amlwg
- Gwella cyfathrebu ymysg staff llys
'Os gallwch ddarparu'r wybodaeth gywir mor gyflym â hyn, gallaf ei rhoi ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu cyn i'r unigolyn adael adeilad y llys.' - David Sinclair, Swyddfa ganlyniadau Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu
Cwblhawyd cyflwyno XHIBIT ar 31 Mawrth 2006.
