Beth yw cafeat?
Cafeat yw trefn i atal Profiant rhag digwydd mewn ystâd, heb roi i'r cafeatwr (y person sy'n trefnu'r cafeat) gyfle i gysylltu â'r person sy'n gwneud cais am Brofiant, neu i wneud sylwadau i'r Llys ynglyn â'r mater.
Ym mha fath o amgylchiadau y defnyddir cafeatau?
Ai cafeat yw'r peth iawn i'w wneud yn fy achos penodol i?
Alla' i drefnu cafeat dros y ffôn neu drwy ffacs?
A oes angen llenwi ffurflen arbennig?
Beth sy'n digwydd i'r wybodaeth hon?
Pam fod angen i mi fynd i'r drafferth o ddarganfod y manylion ar y dystysgrif farwolaeth?
Alla' i newid unrhyw fanylion yn fy nghafeat?
Pa bryd y dylid trefnu cafeat?
Am faint o amser mae cafeat yn para?
A gaiff rhywun ei atgoffa tua diwedd y chwe mis?
Beth sy'n digwydd pan fo cafeat yn atal cais am Brofiant?
Ym mha fath o amgylchiadau y defnyddir cafeatau?
Nid yw'n bosibl rhoi rhestr gynhwysfawr; yn aml defnyddir cafeat i greu cyfnod o seibiant i alluogi'r cafeatwr i wneud ymholiadau i benderfynu a oes sail dros wrthwynebu cais am Brofiant, neu i ddwyn materion mewn perthynas â'r ystâd gerbron y Llys: dyma rai enghreifftiau nodweddiadol:
- fod yna ryw honiad ynglyn ag Ewyllys e.e. nad hon yw'r Ewyllys olaf, nad oedd yr ymadawedig "yn ei iawn bwyll" pan wnaed hi, nad oedd wedi'i llofnodi'n gywir ac na thystiwyd yn gywir iddi, bod rhywun wedi ymyrryd â hi mewn rhyw fodd.
- fod yna anghydfod ynglyn â bodolaeth Ewyllys ai peidio
- efallai nad oes gan y sawl sy'n n bwriadu gwneud cais am Brofiant hawl i wneud hynny
- fod yna anghydfod rhwng dau neu fwy o bobl sydd â hawl cyfartal i wneud cais am Brofiant
- honiadau nad yw'r person sy'n gwneud cais am Brofiant yn "berson cymwys a phriodol"
Ai cafeat yw'r peth iawn i'w wneud yn fy achos penodol i?
Nid oes modd i staff y Gofrestrfa roi cyngor ynglyn â threfnu cafeat ai peidio, na pha gamau dilynol y dylid eu cymryd. Gallant ddweud wrth gwsmeriaid pa weithdrefnau sydd ar gael iddynt, ond ni allant roi cyngor ar addasrwydd unrhyw rai o'r rhain. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, neu eich bod angen cyngor, argymhellir eich bod yn ymgynghori â thwrnai.
Os mai eisiau gwybod yn syml pryd y caniatawyd Profiant yr ydych, neu eich bod angen copi, yna nid yw'r drefn cafeat yn briodol. Yr hyn yr ydych ei angen yw "chwiliad sefydlog" fydd yn darparu copi o'r Profiant i chi pan ganiateir un. Gofynnwch am gopi o'r daflen ar chwiliad sefydlog os gwelwch yn dda.
Sut ydw i'n trefnu cafeat?
Mae modd i chi wneud hyn eich hun, neu drwy dwrnai. Os ydych chi'n ei wneud eich hun, gallwch ysgrifennu at neu fynd yn bersonol i unrhyw Gofrestrfa Brofiant (gweler y Cyfeiriadur Cofrestrfeydd Profiant), gyda'r wybodaeth angenrheidiol a'r ffi o £15. Dylid gwneud sieciau'n daladwy i HMCS.
Alla' i drefnu cafeat dros y ffôn neu drwy ffacs?
Na allwch; rhaid i ni gael cais ysgrifenedig a'r ffi o £15.
A oes angen llenwi ffurflen arbennig?
Ddim o angenrheidrwydd, mae llythyr yn ddigonol, ar yr amod ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol.
- cais wedi'i lofnodi, yn gofyn am drefnu cafeat
- enw llawn a dyddiad marwolaeth yr ymadawedig, fel y'i cofnodwyd yn y gofrestr marwolaethau (yn ogystal, gallwch hefyd roi i ni unrhyw enwau eraill yr adnabyddid yr ymadawedig danynt).
- cyfeiriad parhaol olaf yr ymadawedig.
- eich enw a'ch cyfeiriad chi eich hun
Nid oes angen i chi ddangos tystysgrif farwolaeth.
Beth sy'n digwydd i'r wybodaeth hon?
Tra bydd eich cafeat yn parhau mewn grym, defnyddir y wybodaeth i atal caniatáu Profiant yn yr ystâd heb i chi gael eich hysbysu. Drwy gymharu cofnodion cafeatau â cheisiadau am Brofiant, canfyddir cofnodion sy'n ymwneud â'r un ystâd.
Pam fod angen i mi fynd i'r drafferth o ddarganfod y manylion ar y dystysgrif farwolaeth?
Rydym yn defnyddio'r union wybodaeth a roddwch chi i ni i ddod o hyd i unrhyw gais am Brofiant yn yr ystâd. Mae'n ofynnol i bobl sy'n gwneud cais am Brofiant a phobl sy'n trefnu cafeatau fel ei gilydd, roi gwybodaeth o'r un ffynhonnell i ni (h.y. y dystysgrif farwolaeth), i leihau i'r eithaf y risg i'r cafeat beidio â bod yn effeithiol, oherwydd anghysondebau o ran enwau neu ddyddiadau. Wrth wirio ceisiadau am Brofiant yn erbyn cofnodion cafeatau, byddwn yn edrych am gyfenwau ac enwau cyntaf sydd yr un fath, a dyddiadau marwolaeth agos at ei gilydd (h.y. o fewn tri diwrnod). Mae'n bwysig eich bod yn rhoi i ni'r union enw a dyddiad marwolaeth a nodir ar y dystysgrif farwolaeth, a byddwch yn ofalus iawn gyda chywirdeb sillafu a dyddiadau.
Beth os yw fy nghafeat yn fater brys, ac nad oes modd i mi gael y wybodaeth oddi ar y dystysgrif farwolaeth mewn pryd, neu os nad yw'r farwolaeth wedi'i chofrestru, neu y cofrestrwyd hi dramor?
Byddwn fel arfer yn derbyn pa wybodaeth bynnag a roddwch i ni (fodd bynnag, rhaid i chi werthfawrogi na fydd eich cafeat yn canfod cofnodion eraill yn yr ystâd ond pan fo'r enwau cyntaf a'r cyfenwau yn union yr un fath â'r rhai mewn cais am Brofiant, a lle bo dyddiad y farwolaeth yn eich cafeat o fewn tri diwrnod i ddyddiad y farwolaeth yn y cais).
Alla' i newid unrhyw fanylion yn fy nghafeat?
Cewch, fe gewch wneud hyn ar unrhyw adeg, drwy ysgrifennu i gadarnhau'r newidiadau sydd eu hangen arnoch.
Pa bryd y dylid trefnu cafeat?
Unwaith i chi benderfynu eich bod eisiau trefnu cafeat, dylech wneud hynny ar unwaith. Ni ddylech aros hyd nes eich bod yn meddwl fod rhywun wedi gwneud cais am Brofiant, neu ar fin gwneud cais.
Caiff unrhyw un drefnu cafeat, os byddwch yn ei drefnu'n bersonol, mae angen i chi fod â chyfeiriad yng Nghymru a Lloegr. Ni allwch drefnu cafeat ar y cyd gyda pherson arall: lle bo dau neu fwy o bobl yn dymuno trefnu cafeat, rhaid iddynt wneud hynny ar wahân.
Am faint o amser mae cafeat yn para?
Am chwe mis o ddyddiad ei drefnu. Yn y mis cyn iddo ddod i ben, gallwch wneud cais i'w ymestyn am gyfnod pellach o chwe mis. Mae'n costio £15 yn ychwanegol i ymestyn cafeat.
A gaiff rhywun ei atgoffa tua diwedd y chwe mis?
Na. Oni chaiff cafeat ei ymestyn, mae'n dod i ben, ond os dymunwch, gallwch drefnu un arall.
Beth sy'n digwydd pan fo cafeat yn atal cais am Brofiant?
Bydd y person sy'n gwneud cais am Brofiant yn cael ei hysbysu am eich cafeat, ac yn derbyn eich manylion chi, a rhoddir yr un wybodaeth i chi am y person sy'n gwneud cais am Brofiant.
Mater i chi a'r person sy'n gwneud cais am brofiant yw cysylltu â'ch gilydd, i ddatrys unrhyw wahaniaethau, gobeithio, a chytuno ar y ffordd ymlaen.
Gallwch ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg drwy ysgrifennu at y Gofrestrfa (gan ddychwelyd y llythyr cydnabyddiaeth a roddwyd i chi adeg ei drefnu), ar yr amod nad oes "ymddangosiad" ( y cyfeirir ato isod) wedi'i gofnodi. Os oes ymddangosiad wedi'i gofnodi, ni ellir tynnu'r cafeat yn ôl ond drwy orchymyn Cofrestrydd.
Beth os na cheir cytundeb?
Dyma lle yr aiff pethau'n fwy cymhleth ac argymhellir yn gryf y dylech geisio cyngor cyfreithiol. Gall y cwestiwn o gostau godi ac mae posibilrwydd y gallech ddod yn gyfrifol am dalu nid yn unig eich costau eich hun, ond rhai'r person arall hefyd. Ymdrinnir yn gyffredinol iawn yn unig â'r materion a nodir isod. Os ydych yn gweithredu heb dwrnai, ac angen gwybodaeth am unrhyw rai o'r camau hyn dylech gysylltu â'r Gofrestrfa lle trefnwyd y cafeat, ond cofiwch, os gwelwch yn dda, na all y staff roi unrhyw gyngor i chi ar sut y dylech weithredu.
Mae'n bosibl y bydd y sawl sy'n gwneud cais am Brofiant yn cyflwyno "rhybudd" yn eich erbyn. Mae hyn yn gais ffurfiol i chi ddatgan eich diddordeb yn yr ystâd. Os na fyddwch chi'n ymateb, gall wneud cais am ddileu eich cafeat. Os byddwch chi'n ymateb ac yn cofnodi "ymddangosiad", bydd y cafeat yn parhau mewn grym am gyfnod amhenodol, hyd nes bydd y materion dan sylw'n cael eu datrys yn derfynol.
- cewch chi neu'r sawl sy'n gwneud cais am Brofiant godi gwys a fydd yn cael ei gwrando gan y Cofrestrydd Profiant Dosbarth.
- cewch chi neu'r sawl sy'n gwneud cais am Brofiant gychwyn achos Profiant (achos llys) ar gyfer yr ystâd.
