Cwestiynau Cyffredin
Pam/sut gefais i fy newis i wasanaethu ar reithgor?
- Defnyddir cyfrifiadur i ddewis Rheithwyr ar hap oddi ar y gofrestr etholwyr. Mae'n bosibl i unrhyw un sydd ar y gofrestr etholwyr ac sydd rhwng 18 a 70 oed gael eu dewis, hyd yn oed os nad ydynt yn gymwys i wasanaethu ar Reithgor. Chaiff rhai pobl byth eu galw tra bydd eraill yn cael eu galw fwy nag unwaith.
Oes rhaid imi wasanaethu?
- Mae gwasanaethu ar reithgor yn ddyletswydd gyhoeddus. Heblaw bod rhywun wedi'i wahardd, bod ganddynt yr hawl i gael eu hesgusodi neu fod ganddynt reswm dilys dros gael eu hesgusodi ar sail disgresiwn, yna rhaid iddynt wasanaethu.
Ga'i fy esgusodi rhag gorfod Gwasanaethu ar Rheithgor?
- Caiff unrhyw un arall wneud cais am gael eu hesgusodi ar sail disgresiwn. Dylent roi'r rhesymau ar eu ffurflen ateb gwŷs yn adran 3 cwestiwn C. Bydd y swyddog rheithgor yn y swyddfa'n penderfynu a gaiff y person dan sylw ei esgusodi ar sail y manylion a roddwyd. Os gwrthodir esgusodi rheithiwr, bydd ganddo/i yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn. Dylai'r rheithiwr anfon y rhesymau dros apelio ar ffurf ysgrifenedig at bennaeth y Swyddfa.
Ga'i ofyn am ohirio fy Ngwasanaeth Rheithgor?
- Gall unrhyw un ofyn am ohirio'i Wasanaeth Rheithgor. Dylent ysgrifennu eu rhesymau dros ofyn am ohiriad e.e. eu bod yn mynd ar eu gwyliau, ar eu ffurflen ateb gwŷs yn adran 3, cwestiwn A. Dylai rheithwyr hefyd nodi unrhyw ddyddiadau eraill pan na allant fod yn bresennol yn ystod y deuddeng mis nesaf, er mwyn i ni drefnu dyddiad newydd. Bydd swyddog rheithgor yn penderfynu a ellir caniatáu'r gohiriad, ac yn trefnu dyddiad newydd.
- Caniateir y rhan fwyaf o geisiadau am ohiriad, ond fel sy'n wir am gais i gael eich esgusodi, os gwrthodir caniatáu'r gohiriad, bydd gennych yr hawl i apelio i bennaeth y swyddfa.
- Dim ond unwaith yn unig y gellir gohirio gwasanaeth rheithgor, a hynny am hyd at ddeuddeng mis o'r dyddiad gwreiddiol.
Am faint fydd gwasanaeth rheithgor yn para?
- Deg diwrnod gwaith y bydd gwasanaeth rheithgor yn para ar gyfartaledd, ond gallai fod am gyfnodau hirach neu fyrrach na hyn, yn dibynnu ar yr achos y bydd y rheithiwr yn gwasanaethu ynddo.
Ga'i fy nhalu am Wasanaethu ar Reithgor?
- Gall y llysoedd dalu am golli enillion, costau teithio a chynhaliaeth.
- Ni wneir unrhyw dâl i drydydd parti megis cyflogwyr.
- Mae'r cyfraddau a delir i reithwyr i'w gweld yn y daflen Lwfansau a anfonir at bawb sy'n derbyn gwŷs i wasanaethu ar reithgor.
^ Brig
|
