Ysgariad
I fedru ysgaru, rhaid i chi fod wedi bod yn briod am flwyddyn o leiaf. Rhaid i chi lenwi ffurflen, a elwir yn 'Ddeiseb', gan roi'r rhesymau dros wneud cais, er mwyn dangos heb unrhyw amheuaeth bod eich priodas ar ben. Os oes gennych blant, byddwch hefyd yn llenwi ffurflen o'r enw 'datganiad trefniadau'. Yn honno, byddwch yn dweud wrth y llys pa gynlluniau a wnaed gennych ar gyfer y plant, unwaith y bydd yr ysgariad yn derfynol.
Bydd rhai llysoedd sirol a Phrif Gofrestrfa'r Adran Deulu yn Llundain yn delio ag achosion ysgaru ac ag achosion eraill sy'n ymwneud â'r teulu. Os nad yw eich llys sirol lleol yn delio â cheisiadau ysgaru, holwch y staff i gael gwybod ble mae'r llys sirol agosaf a all eich helpu.
Cam 1. Dechrau'r broses
Ynglŷn ag ysgariad
(Taflen D183)
Rydw i eisiau ysgariad - beth ddylwn i ei wneud?
(Taflen D184)
Plant ac ysgariad
(Taflen D185)
Cam 2. Ymateb
Mae'r atebydd wedi ateb fy neiseb - beth sydd i'w wneud?
(Taflen D186)
Cam 3. Dyfarniad Amodol
Mae gen i ddyfarniad amodol - beth nesaf?
(Taflen D187)
Diddymu Partneriaeth Sifil
