Beilïaid a Swyddogion Gorfodi
Mae beilïaid a swyddogion gorfodi wedi cael eu hawdurdodi i gymryd a gwerthu eiddo pobl er mwyn talu'r arian sy'n ddyledus i unigolyn neu sefydliad. Maent hefyd yn troi pobl allan a chânt arestio pobl.
Mae gan feilïaid a swyddogion gorfodi swyddogaethau gwahanol. Mae gwybodaeth fanwl am eu cyfrifoldebau a sut maent yn gweithio ar gael yn y daflen EX345 Beilïaid a Swyddogion Gorfodi
Mae Cyfeirlyfr Swyddogion Gorfodi Uchel Lys yn cynnwys enwau swyddogion gorfodi yn Lloegr a Chymru sydd â'r awdurdod i weithredu gwrit Uchel Lys dan y ddarpariaeth a gynhwysir yn adran 99 ac Atodlen 7 Deddf y Llysoedd 2003.
Cyfeirlyfr Swyddogion Gorfodi Uchel Lys (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
^ Brig
|
