Mabwysiadu Rhyngwladol a Chytundeb yr Hâg 1993
Tudalen 1 o 14
Canllawiau i'r Defnyddiwr
Mae'r canllawiau hyn ar gael ar ffurf pdf hefyd
Canllawiau ac i bwy y maent
Anelir y canllawiau hyn at unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais i lys yng Nghymru a Lloegr am orchymyn mabwysiadu dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 dan yr amgylchiadau isod:
- bod y plentyn, cyn iddo gyrraedd y DU i'w fabwysiadu, yn byw fel rheol mewn gwlad
neu diriogaeth y tu allan i Ynysoedd Prydain; - bod y plentyn sydd i'w fabwysiadu yn byw fel rheol y tu allan i Ynysoedd Prydain;
- bod y mabwysiadwyr arfaethedig yn byw fel rheol y tu allan i Ynysoedd Prydain.
Mae “Ynysoedd Prydain” yn golygu Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd
y Sianel ac Ynys Manaw.
Bydd y canllawiau hyn yn dweud wrthych:
- beth yw mabwysiadu rhyngwladol;
- beth yw Cytundeb yr Hâg 1993;
- pwy gaiff wneud cais am fabwysiadu plentyn;
- pa wybodaeth y bydd ei hangen ar y llys; a
- sut y bydd y llys yn ymdrin â'ch cais.
Nid yw'n ddatganiad diffiniol o'r gyfraith. Os ydych yn ystyried mabwysiadu plentyn, dylech gael cyngor gan: adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol; asiantaeth fabwysiadu gymeradwy; twrnai neu ganolfan cyngor cyfreithiol neu Ganolfan Cyngor Ar Bopeth.
Cewch hefyd wybodaeth ddefnyddiol am fabwysiadu ar wefan mabwysiadu yr Adran Addysg a Sgiliau yn: http://www.dfes.gov.uk/intercountryadoption.
I gael gwybodaeth gyfreithiol, cymorth a chyngor yn rhad ac am ddim, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol Uniongyrchol ar 0845 345345 neu http://www.clsdirect.org.uk/
Cofiwch: Yng ngweddill y daflen hon, mae'r term “cartref parhaol” yn cael ei ddefnyddio yn lle 'preswylfa arferol'. Gwneir hyn er mwyn ei gwneud yn haws ei darllen, ond dylid cofio nad yw'r term hwn mewn gwirionedd yn cyfateb i union ystyr preswylfa arferol. Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch eich statws preswyliaeth, dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol cyn gynted â phosib yn y broses fabwysiadu.
