English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Canfod Llys Mabwysiadu Ffioedd y Llys Teulu

Adnoddau pellach

CAFCASS Canolfan Cyngor ar Bopeth Cymdeithas Brydeinig Mabwysiadu a Maethu Llinell Wybodaeth Mabwysiadu a Maethu Swyddfa Gofrestru Gyffredinol

Mabwysiadu


Mae'r tudalennau hyn yn cynnwys gwybodaeth am fabwysiadu ar gyfer defnyddwyr llys a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol. Defnyddiwch y dolenni i weld arweiniad manwl am drefniadau mabwysiadu.



Mabwysiadu: Arweiniad i Ddefnyddwyr y Llysoedd (Taflen A20)
Bydd yr arweiniad yn dweud wrthych pwy gaiff wneud cais am fabwysiadu plentyn, pa wybodaeth y bydd gofyn i chi ei rhoi i'r llys a sut bydd y llys yn delio â'ch cais. Bydd hefyd o ddiddordeb i weithwyr proffesiynol ym meysydd materion cyfreithiol a gofal plant sy'n gysylltiedig â'r broses fabwysiadu.

Deddf Mabwysiadu a Phlant (2002) (PDF 285Kb)
Mae'r canllaw cryno hwn yn gyflwyniad bras i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ac yn paratoi ar gyfer y rheolau llys a'r ffurflenni cais newydd a fydd yn dechrau ar 30 Rhagfyr 2005 (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg).

Atodiad Mabwysiadu Rhyngwladol (Taflen A20(1))
Dylai'r arweiniad hwn gael ei ddarllen gan unrhyw un sydd yn meddwl gofyn i lys sirol, i Gofrestrfa Ddosbarth yr Uchel Lys neu i Brif Gofrestrfa'r Adran Deulu yn Llundain wneud gorchymyn mabwysiadu a bod: y plentyn, cyn iddo neu iddi ddod i'r DU, yn preswylio fel arfer y tu allan i Ynysoedd Prydain; y plentyn sydd i'w fabwysiadu yn parhau i fod â'i fan preswylio arferol y tu allan i Ynysoedd Prydain; neu fod man preswylio arferol y darpar fabwysiadwyr y tu allan i Ynysoedd Prydain.

Mabwysiadu Rhyngwladol a Chytundeb yr Hâg 1993 (Taflen A21)
Mae'r atodiad hwn yn amlinellu'r newidiadau hynny a wnaed i'r arweiniad ac a fydd yn berthnasol bob tro y gwneir cais mabwysiadu rhyngwladol.


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 13 June 2005 11:35. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .