English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Ffioedd y Llys Sirol Gorfodi dyfarniad Mynychu llys

Adnoddau pellach

Advice Now Canolfan Cyngor ar Bopeth Dolen Busnes Hawliad arian ar lein Llinell Gymorth Genedlaethol Cyfryngu Registry Trust Safonau Masnach Y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol

Gwneud hawliad


Os oes ar rywun arian i chi ac na allwch chi setlo pethau drwy unrhyw ddull arall, efallai y penderfynwch chi gychwyn hawliad drwy'r llys sirol. Bydd pobl hefyd yn cychwyn hawliadau am resymau eraill, gan gynnwys:

Mae'r llysoedd sirol yn ymdrin â phob un o'r mathau hyn o hawliad. Weithiau, fe glywch chi bobl yn sôn am y 'llys hawliadau bychain'. Yr hyn maen nhw'n sôn amdano mewn gwirionedd yw'r drefn arbennig a ddefnyddir i ymdrin â hawliadau llai mewn llys sirol.

Mynd i'r llys ddylai fod yr ateb yn niffyg dim arall. Erbyn heddiw, mae nifer o ffyrdd eraill o ddatrys cwynion, anghydfodau a phroblemau cyfreithiol heb orfod mynd i'r llys, gan gynnwys camau fel cyflafareddu, cyfryngu a chynlluniau ombwdsmyn. Gelwir y rhain yn aml yn ddulliau amgen o ddatrys anghydfod.

Mae rheolau'r llys yn gofyn eich bod yn ystyried a fyddai dull amgen o ddatrys anghydfod yn ffordd well o daro cytundeb cyn mynd i'r llys.

Gellir gwneud rhai hawliadau ar-lein gan ddefnyddio Hawlio Arian Ar-lein

Rhaid cychwyn hawliadau o fewn cyfnod penodol. Os ydych chi wedi gohirio cychwyn achos am ryw reswm, efallai y byddai'n well i chi geisio cyngor cyfreithiol cyn cychwyn eich hawliad.

Os hoffech fwrw ymlaen gyda hawliad, neu os ydych yn dymuno amddiffyn hawliad, mae'r taflenni canlynol ar gael:

Cam 1: Sut i wneud hawliad

Yn Gwneud hawliad? Ambell gwestiwn i chi ofyn i chi'ch hun (Taflen EX301)

Sut mae gwneud hawliad (Taflen EX302)

Adennill dyledion i fusnesau (Taflen EX350)

Cam 2: Ymateb y diffynnydd

Mae hawliad wedi'i wneud yn fy erbyn i – Beth ddylwn i wneud? (Taflen EX303)

Dim ateb i fy ffurflen hawliad – beth ddylwn i wneud? (Taflen EX304)

Mae'r diffynnydd yn gwrthwynebu'r cyfan neu ran o fy hawliad (Taflen EX306)

Mae'r diffynnydd yn addef i fy hawliad – fe hawliais swm penodol o arian (Taflen EX309)

Mae'r diffynnydd yn addef i fy hawliad – ni hawliais swm penodol o arian (Taflen EX308)

Cam 3: Dyrannu i drac achosion

Y Trac Hawliadau Bychain (Taflen EX307)

Y trac cyflym a'r drefn aml-drac (Taflen EX305)


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 26 October 2007 11:21. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .