English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Canllawiau Cwestiynau a Ofynnir yn Aml Cymorth gyda Gwŷs Ymholiadau

Adnoddau pellach

Rheithiwr Ar-Lein

Gwasanaeth rheithgor


Efallai eich bod yn un o'r llawer o bobl sy'n cael eu dewis i wneud gwasanaeth rheithgor.

Fel rheithiwr, fe gewch gyfle i chwarae rhan allweddol yn y system gyfreithiol. Yma, cewch wybod beth sy'n digwydd yn y llys ac am eich swyddogaeth fel rheithiwr.

Fel arfer, bydd rheithwyr yn gwrando'r achosion troseddol mwy difrifol megis llofruddiaeth, trais rhywiol, ymosod, byrgleriaeth neu dwyll. Cynhelir y treialon hyn yn Llys y Goron.

Weithiau bydd angen rheithwyr mewn achos sifil, megis enllib. Ni fydd hyn yn digwydd yn aml. Pan fydd yn digwydd, fel arfer fe gynhelir y treial yn yr Uchel Lys neu'r Llys Sirol.

Bydd gan reithiwr mewn achos sifil swyddogaeth debyg i reithiwr mewn achos troseddol ond mae ambell wahaniaeth pwysig. Esbonnir y rhain i chi os byddwch chi'n rheithiwr mewn achos sifil.

I'r rhan fwyaf o bobl, mae gwasanaethu ar reithgor yn ddiddorol ac yn rhywbeth na fyddan nhw ond yn ei wneud unwaith yn eu hoes. Fodd bynnag, fe all y teithio ychwanegol neu'r cyfrifoldeb fod yn straen. Cofiwch na fyddwch ar eich pen eich hun fel rheithiwr, ac, os cewch unrhyw anhawster, gallwch siarad ag un o swyddogion y llys.

Mae'n bosibl y cewch chi'ch gwysio i ddod i Lys y Goron i wasanaethu ar y rheithgor am gyfnod. Mae gan reithwyr swyddogaeth bwysig yn y drefn cyfiawnder troseddol, a rhaid iddynt benderfynu, ar sail y ffeithiau, a yw diffynnydd yn euog neu beidio.

Fel rheithiwr, fel arfer, gofynnir i chi wasanaethu am gyfnod o ddeg diwrnod gwaith, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, fe allech eistedd ar fwy nag un achos. Wrth gwrs, os bydd treial yn parhau'n hwy na hynny, byddai disgwyl i'r rheithgor eistedd drwyddo i gyd, ond byddai gennych hawl i gael costau yn ystod y treial.

Gallwch holi'r Llys y Goron y gofynnwyd i chi wasanaethu ynddo am fwy o wybodaeth amdanoch chi a'ch gwasanaeth rheithgor. Bydd y staff yno'n gallu rhoi gwybodaeth i chi am gyfleusterau'r llys a hefyd am hawlio costau teithio a chostau eraill.

Yn ogystal, bydd aelod o staff Gwasanaeth Llysoedd ei Mawrhydi ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych a hefyd yn dangos fideo i chi am y gwasanaeth rheithgor y gallwch chi ei gwylio neu wrando arni, cyn i'ch gwasanaeth ddechrau.

Rheithiwr Ar-Lein  - bydd y safle hwn yn eich arwain drwy drefn y gwasanaeth rheithgor ac yn esbonio'r camau a'r trefniadau y byddwch chi'n profi pan ddewch i'r llys i wasanaethu. Wrthi chi fynd drwy'r safle, fe gewch atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych.


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 23 April 2007 11:22. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .