Rhaglen Gweinyddiaeth Unedig y Llysoedd
Mewn Papur Gwyn gan y Llywodraeth dan y teitl 'Cyfiawnder i Bawb' a gyhoeddwyd yn 2002, argymhellwyd y dylid datblygu un asiantaeth i gefnogi'r gwaith o weinyddu cyfiawnder ym mhob llys yng Nghymru a Lloegr, yn hytrach na gweinyddu Llysoedd yr Ynadon a'r Gwasanaeth Llys ar wahân.
Drwy Ddeddf y Llysoedd 2003, darparwyd y fframwaith cyfreithiol er mwyn rhoi'r newidiadau hyn ar waith.
Sefydlwyd Rhaglen Gweinyddiaeth Unedig y Llysoedd i greu'r asiantaeth newydd ac a lansiwyd ar 1 Ebrill 2005.
Roedd y Rhaglen yn canolbwyntio ar ddyfeisio system a fyddai'n cynnig gwell gwasanaeth a gwasanaeth mwy cyson i ddefnyddwyr y llysoedd drwy ddarparu:
- Un asiantaeth genedlaethol a fyddai'n llwyr gyfrifol am ddarparu gwasanaethau'r llysoedd gan roi gwell safon o wasanaeth i ddefnyddwyr y llysoedd a hwnnw'n wasanaeth mwy cyson
- Mwy o adnoddau a fyddai ar gael i gefnogi'r broses o weinyddu cyfiawnder.
- Mwy o hyblygrwydd wrth ddefnyddio adeiladau'r llysoedd.
Ar 31 Mawrth 2005 trosglwyddwyd cyfrifoldeb am y 42 Pwyllgor Llysoedd Ynadon a'r Gwasanaeth Llys i'r asiantaeth newydd.
Neil Ward fydd pennaeth yr asiantaeth fel Prif Weithredwr (Interim) ac ef syddyn atebol am berfformiad yr asiantaeth drwy'r Gweinidogion i'r Senedd.
Mae gwasanaethau'r llysoedd yng Nghymru a Lloegr yn cael eu gweinyddu gan 7 rhanbarth sy'n gyfrifol am 42 ardal leol. Rheolir yr ardaloedd hyn gan Gyfarwyddwyr Ardal sy'n gyfrifol am gyflwyno gwasanaethau lleol. Maent yn gweithio mewn partneriaeth â Byrddau Llysoedd er mwyn sicrhau bod yr Asiantaeth yn canolbwyntio ar ei chwsmeriaid ac yn diwallu anghenion lleol.
Mae'r asiantaeth newydd yn sicrhau bod gofynion ei defnyddwyr yn flaenllaw ym mhopeth a wnânt fel rhan o gyfundrefn fodern sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus o'r radd flaenaf.
