Y Llys Sirol
Ceir 216 Llys Sirol, a'r rhain sy'n delio â'r rhan fwyaf o achosion sifil, yn ogystal â rhai gwrandawiadau teulu a methdaliad.
Mae nifer fawr o achosion yn dod gerbron y Llysoedd Sirol a dyma lle yr ymdrinnir â'r holl achosion cyfraith sifil ar wahân i'r rhai mwyaf cymhleth.
Mae achosion sifil yn cynnwys:
- Hawliadau am ddyled
- Anaf personol
- Tor-contract mewn perthynas â nwyddau neu eiddo
- Materion teulu megis ysgaru neu fabwysiadu
- Meddiannu tai
Mae gan bob llys Feilïaid sy'n gorfodi gorchmynion llys ac yn ceisio casglu arian os oes dyfarniad heb ei dalu.
|
^ Brig
|
