Y Llys Ynadon
Mae'r Llysoedd Ynadon yn rhan allweddol o'r drefn cyfiawnder troseddol - bydd bron pob achos troseddol yn dechrau mewn llys ynadon a dros 95% o achosion hefyd yn cael eu cwblhau yma. Yn ogystal, bydd y Llysoedd Ynadon yn ymdrin â llawer o achosion sifil, y rhan fwyaf yn faterion teulu, yn ogystal â thrwyddedau gwerthu gwirodydd a gwaith betio a hapchwarae. Fel arfer, gwrandewir achosion yn y Llysoedd Ynadon gan baneli o dri ynad (Ynad Heddwch), ac mae oddeutu 30,000 o'r rhain yng Nghymru a Lloegr.
|
^ Brig
|
