English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Adneuo dogfennau i'w cadw'n ddiogel Ail-selio Amdanom Ni Apwyntiadau Cafeatau Canllawiau Ceisiadau am brofiant Chwiliadau ac Ymchwil Cofrestrfeydd Profiant Cynnal chwiliad sefydlog Cysylltu â Ni Deddf Partneriaeth Sifil 2004 Ffioedd Profiant Ffurflenni a taflenni Grantiau Cynrychiolaeth Gweithdrefnau profiant yn yr Alban a Gogledd Iwerddon Llinell Gymorth Profiant a'r Dreth Etifeddu Pam gwneud ewyllys? Rheolau Profiant Tynnu Ewyllysiau o fannau cadw diogel

Adnoddau pellach

Age Concern Canolfan Cyngor ar Bopeth Cofrestrydd Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau Cyllid a Thollau EM Cymdeithas y Gyfraith Gofal Galaru Cruse Help the Aged Llysoedd Gogledd Iwerddon Llysoedd Ynys Manaw Llysoedd yr Alban Swyddfa Gwarchodaeth y Cyhoedd

Pam gwneud ewyllys?


Plant , ond dim partner priod neu bartner sifil Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i gyfraith Cymru a Lloegr yn unig. Nid yw'n fwriad i'r wybodaeth fod yn gyngor cyfreithiol ac ni ddylech ei defnyddio yn lle chwilio am gyngor proffesiynol priodol ar sut i roi trefn ar eich asedau. Ni all staff y Gwasanaeth Profiant roi cyngor i chi ynghylch a ddylech wneud ewyllys neu beidio, na chynnwys yr ewyllys chwaith.

Ewyllysiau | Rheolau Diewyllysedd | Gwneud ewyllys

Ewyllysiau

Nid yw pobl yn hoffi meddwl am farwolaeth a'r effaith a gaiff ar y rhai a adewir ar ôl, ond mae'n rhywbeth y mae'n rhaid ei wynebu rywbryd. Mae'n naturiol eich bod am weld eich eiddo a'ch asedau yn mynd i rywun yr ydych chi yn ei ddewis ar ôl i chi farw. Drwy wneud ewyllys gallwch wneud yn siwr fod eich asedau yn mynd i'r bobl yr ydych chi wedi'u dewis i'w cael.

Ceir rhai asedau nad oes modd eu rhoi i eraill yn eich ewyllys (e.e. fel arfer bydd eiddo sy'n cael ei ddal mewn mwy nag un enw'n pasio'n awtomatig i'r cyd-berchennog arall) ond gellir delio gyda'r rhan fwyaf o'ch eiddo drwy ewyllys.

Beth yw ewyllys?

Datganiad cyfreithiol yw ewyllys sy'n datgan sut yr ydych am i'ch eiddo gael ei ddosbarthu pan fyddwch yn marw. Er mwyn iddi fod yn ddilys, mae'n rhaid iddi gydymffurfio â rhai gofynion.

^Brig

Pwy sy'n gallu gwneud ewyllys?

At ei gilydd, unrhyw un sydd dros 18 oed ac yn ei iawn bwyll.

Ond:

Beth sy'n gwneud ewyllys yn ddilys?

^Brig

Pwy all fod yn dyst?

Unrhyw un:

Fodd bynnag, ni ddylai tyst:

Yn yr amgylchiadau hyn, bydd yr ewyllys yn dal yn ddogfen gyfreithiol a dilys, ond ni fydd modd talu'r rhodd i'r buddiolwr.

Enghraifft:

Mae Sally yn wraig weddw 83 oed. Does ganddi hi ddim plant ac mae ei hunig berthynas byw, ei chwaer Maria, yn byw yn Awstralia. Mae Sally yn bwrw 'mlaen yn dda iawn â'i chymdogion, Kate a Sue, ac mae'n awyddus i adael rhywbeth iddynt pan fydd yn marw. Mae Sally'n cyfarwyddo twrnai i ddrafftio'i hewyllys a fydd yn rhannu ei hystad yn gyfartal rhwng Kate a Sue.

Unwaith y mae Sally wedi cymeradwyo'r ewyllys, mae'n gwneud ei threfniadau'i hun i gael tystion i lofnodi'r ewyllys. Mae Sally'n gwybod na chaiff Kate na Sue fod yn dystion i'w hewyllys. Ond, nid yw'n gwybod na ddylai gŵyr Kate a Sue, David a Simon, fod yn dystion i'r ewyllys ychwaith. Felly, mae'n defnyddio David a Simon yn dystion ar gyfer yr ewyllys.

Pan fydd Sally'n marw, ni fydd Kate a Sue yn cael unrhyw rodd oherwydd bod eu gwŷr wedi bod yn dystion a bydd ystad Sally yn cael ei dosbarthu'n unol â'r rheolau diewyllysedd (y rheolau sy'n berthnasol lle nad oes ewyllys neu ewyllys ddilys).

^Brig

Rheolau Diewyllysedd

Beth sy'n digwydd os nad yw ewyllys yn ddilys?

Bydd yn cael ei hanwybyddu a dosberthir eiddo'r ymadawedig yn unol â'r rheolau diewyllysedd

Beth os na fyddaf yn gwneud ewyllys?

Os na fyddwch yn gadael ewyllys ddilys, bydd eich ystad yn cael ei dosbarthu yn unol â rheolau diewyllysedd. Y rheolau diewyllysedd sy'n nodi pwy fydd yn cael etifeddu'ch ystad os na fyddwch yn gadael ewyllys ddilys.

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, y person cyntaf sydd â hawl i'ch ystad dan y rheolau diewyllysedd yw eich partner priod/partner sifil, ond ni fydd yn etifeddu'r holl ystad o anghenraid (daeth Deddf Partneriaeth Sifil 2004 i rym ar 5 Rhagfyr 2005 gan roi i gyplau o'r un rhyw yr hawl i gofrestru'u partneriaethau, gan roi'r un hawliau cyfreithiol iddynt yn fras â pharau priod).

Byddai'r swm y byddai eich partner priod/partner sifil yn ei etifeddu'n dibynnu ar faint sydd yn eich ystad a pha rai o'ch perthnasau gwaed sy'n byw ar eich ôl. Fel arfer, mae asedau sy'n cael eu dal ar y cyd yn pasio'n awtomatig i'r cyd-berchennog neu gyd-berchnogion eraill ac nid ydynt yn ffurfio rhan o'ch ystad (os nad ydych yn sicr am y math o gyd-berchnogaeth sydd gennych ag eraill, dylech ystyried cael cyngor cyfreithiol).

^Brig

Y rheolau diewyllysedd yn syml

Pethau eraill y dylech eu hystyried am effeithiau'r rheolau diewyllysedd

Os oes unrhyw rai o'r amgylchiadau canlynol yn berthnasol i chi, efallai na fydd y rheolau diewyllysedd yn darparu ar gyfer eich sefyllfa yn y ffordd y byddech yn ei dymuno:

^Brig

Gwneud ewyllys

Sut y gallaf wneud ewyllys?

Mae 'na sawl dewis:

Beth sydd orau i mi?

Chi sydd i benderfynu, ond cyn gwneud y gwaith eich hun, cofiwch yr opsiwn o gael cyngor proffesiynol. Dylai twrnai neu ysgrifennwr ewyllysiau proffesiynol allu'ch cynghori ar y ffordd orau o lunio'ch ewyllys fel ei bod yn adlewyrchu'ch dymuniadau chi, ac yn bwysig iawn hefyd gwneud yn siwr ei bod yn ddilys. Gallant eich helpu hefyd gyda chynllunio ar gyfer y dreth etifeddu a sefydlu ymddiriedolaethau. Efallai y bydd llunio'ch ewyllys eich hun yn iawn i chi, ond os gwnewch gamgymeriad, gall fod yn gostus a gall beri trallod i'ch buddiolwyr, yn enwedig os canfyddir nad yw eich ewyllys yn ddilys.

^Brig

Alla' i newid f'ewyllys?

Gallwch ac fe'ch cynghorir i adolygu'ch ewyllys yn rheolaidd i sicrhau ei bod yn dal i fodloni'ch gofynion wrth i'ch amgylchiadau newid. Fel arall gallai problemau a chymhlethdodau godi.

Enghraifft:

Mae Peter yn gwneud ewyllys yn 1999. Mae wedi ysgaru ac mae ganddo lys-fab. Yn yr ewyllys mae'n anrhegu popeth yn ei ystad. Ar y pryd, mae'n byw mewn llety rhent ac mae'n gweithio fel trydanwr. Yn 2002, mae'n cychwyn ei fusnes ei hun sy'n troi'n llwyddiant ac erbyn 2004 mae'n gallu prynu ei eiddo ei hun ac mae'n dal cyfranddaliadau mewn nifer o gwmnïau ar wahân i'w gwmni ei hun.

Mae'n sylweddoli y dylai newid ei ewyllys i adlewyrchu ei amgylchiadau newydd, ond mae'n marw cyn iddo gael cyfle i wneud hynny. Ymdrinnir â'r anrhegion penodol a oedd wedi cael eu henwi yn ei ewyllys yn unol â'i ddymuniadau ond, oherwydd nad yw rhannau o'i ystad wedi cael eu crybwyll yn yr ewyllys h.y. y tŷ a'r busnes, ymdrinnir â'r rhain dan y rheolau diewyllysedd. Dan reolau diewyllysedd, mam 89 oed Peter sy'n etifeddu'r tŷ a'r busnes, rhywbeth na fyddai Peter wedi'i ddymuno. Ei ddymuniad erioed oedd i'w lys-fab etifeddu'r cartref ac i'w fusnes fynd i'w gefnder Paul.

Er mwyn i unrhyw newidiadau fod yn ddilys, bydd angen i chi wneud ewyllys arall neu, os yw'r newidiadau'n gymharol fach, gallwch wneud codisil, sy'n ffurfio rhan o'ch ewyllys (rhaid llofnodi codisil a chael tystion iddo yn yr un ffordd ag ewyllys). Dogfen sy'n gwneud newidiadau i ewyllys yw codisil. Nid yw'r codisil yn disodli'r ewyllys fel arfer, ond yn cael ei ddarllen ar y cyd â'r ewyllys. Llunnir a gweithredir codisil yn yr un ffordd ag ewyllys.

Mae'n bosibl llunio ewyllys a fydd yn delio gyda digwyddiadau a all ddigwydd yn y dyfodol (megis y buddiolwr yn marw cyn i chi farw, neu wneud anrhegion i blant neu wyrion a enir ar ôl dyddiad yr ewyllys) ond dylech gael cyngor am faterion o'r fath gan nad ydynt yn syml a byddant yn achosi problemau os na chânt eu geirio'n briodol.

RHYBUDD: Bydd priodi, neu ffurfio partneriaeth sifil ar ôl i'ch ewyllys gael ei llunio fel arfer yn diddymu neu ganslo'r ewyllys oni fydd yr ewyllys yn dweud fel arall. Bydd ysgaru neu ddiddymu partneriaeth sifil yn effeithio ar eich ewyllys hefyd, ond nid yw'n ei diddymu. Os byddwch yn ysgaru neu'n diddymu'ch partneriaeth sifil ar ôl gwneud eich ewyllys, bydd unrhyw gyfeiriad at eich cyn bartner priod neu bartner sifil yn cael ei drin fel petai ef neu hi wedi marw ar y diwrnod y gwnaethpwyd gorchymyn y dyfarniad absoliwt neu'r gorchymyn diddymu terfynol. Dylech ofyn am gyngor cyfreithiol yn yr amgylchiadau hyn.

Enghraifft

Mae Mike a John wedi bod yn gwpl ers 10 mlynedd. Gwnaethant ewyllysiau bum mlynedd yn ôl yn gadael eu hystadau i'w gilydd. Mae Mike wedi ysgaru ac mae ganddo ddau o blant ac mae gan John frawd.

Yn gynnar yn 2006, mae'r ddau'n ffurfio Partneriaeth Sifil. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, mae Mike yn marw. Cafodd ewyllysiau'r ddau ohonynt eu diddymu gan y Bartneriaeth Sifil ac, er bod ei ewyllys yn dal i adlewyrchu ei ddymuniadau, ymdrinnir ag ystad Mike dan reolau diewyllysedd. Gan fod ei ystad yn fwy na'r swm y gall ei bartner sifil ei etifeddu, mae ei ddau blentyn yn rhannu ei ystad gyda John.

^Brig

Alla' i ganslo f'ewyllys?

Gallwch, gelwir hyn yn ddiddymu'ch ewyllys. Gallwch ddiddymu'ch ewyllys unrhyw bryd, drwy ei dinistrio, neu drwy wneud ewyllys arall sy'n canslo'r holl ewyllysiau blaenorol.

Ble y dylwn gadw f'ewyllys?

Efallai na fydd angen eich ewyllys am flynyddoedd ar ôl ei llunio ac felly mae'n hanfodol ei storio'n ddiogel ac y bydd modd dod o hyd iddi ar ôl i chi farw.

Dyma'r prif fannau ar gyfer storio ewyllysiau:

Rhai pwyntiau allweddol i'w cofio:

^Brig

Y rheolau diewyllysedd yn syml

Hawl i ystad person sydd wedi marw a oedd yn preswylio yng Nghymru a Lloegr, nad oedd wedi gadael ewyllys ddilys.

Ni fwriedir i'r siart isod fod yn ddatganiad cyfreithiol diffiniol o'r gyfraith ar gyfer pob amgylchiad, nid yw ychwaith yn gyngor cyfreithiol.

Yr ymadawedig yn marw gan adael y perthnasau hyn: Ar ôl talu costau'r angladd, trethi a dyledion eraill yr ymadawedig, bydd gweddill yr ystad yn mynd i:
Lle dangosir y perthnasau mewn print trwm darllenwch nodyn esboniadol 2 Lle dangosir y perthnasau mewn print trwm darllenwch nodyn esboniadol 2
Partner priod neu bartner sifil, ond dim plant na rhieni na brodyr na chwiorydd gwaed cyfan* Popeth i'r partner priod/partner sifil
Partner priod neu bartner sifil a phlant

1. Lle nad yw'r ystad net yn fwy na £125,000 - Popeth i'r partner priod/partner sifil

2. Os yw'r ystad net dros £125,000 - y £125,000 cyntaf ynghyd â meddiannau personol i'r partner priod/partner sifil

Rhennir hanner y gweddill yn gyfartal rhwng y plant .

Bydd y partner priod/partner sifil yn derbyn yr incwm neu'r llog ar yr hanner arall yn ystod ei oes ef neu hi a phan fydd y partner priod neu bartner sifil yn marw, bydd y cyfalaf yn mynd i blant yr ymadawedig yn gyfartal.

Partner priod neu bartner sifil (ond dim plant), ac un neu'r llall o'r rhieni, neu frodyr neu chwiorydd gwaed cyfan. 1. Lle nad yw'r ystad net yn fwy na £200,000 - Popeth i'r partner priod/partner sifil
2. Os yw'r ystad net dros £200,000 - £200,000, ynghyd â hanner y gweddill, a meddiannau personol i'r partner priod/partner sifil.
Bydd yr hanner arall yn mynd i rieni'r ymadawedig yn gyfartal; ond os nad oes rhieni, yna i frodyr a chwiorydd gwaed cyfan yn gyfartal.
Plant, ond dim partner priod neu bartner sifil Popeth i'r plant mewn cyfrannau cyfartal
Rhiant (rhieni), ond dim partner priod na phartner sifil, na phlant Popeth i'r rhieni mewn cyfrannau cyfartal.
Brawd (brodyr) neu chwaer (chwiorydd), ond dim partner priod na phartner sifil, na phlant na rhieni 

Popeth i'r brodyr a chwiorydd gwaed cyfan yn gyfartal.

Os nad oes brodyr na chwiorydd gwaed cyfan, yna i frodyr a chwiorydd hanner gwaed yn gyfartal.

Nain a thaid (neiniau a theidiau), ond dim partner priod na phartner sifil, na phlant, na rhieni, na brodyr na chwiorydd Popeth i'r neiniau a theidiau yn gyfartal.
Ewythr (ewythrod), Modryb (modrybedd), ond dim partner priod na phartner sifil, na phlant na rhieni, na brodyr na chwiorydd na neiniau a theidiau

Popeth i'r ewythrod a modrybedd gwaed cyfan yn gyfartal.

Os nad oes ewythrod na modrybedd gwaed cyfan, yna i ewythrod neu fodrybedd hanner gwaed yn gyfartal.

Dim partner priod na phartner sifil a dim perthnasau yn unrhyw un o'r categorïau a ddangosir uchod Popeth i'r Goron

^Brig

Nodiadau esboniadol:

1. Esboniad o'r termau a ddefnyddir yn y siart:

Yn aml, mae gan eiriau a ddefnyddir mewn iaith bob dydd wahanol ystyron dan y gyfraith. Bwriedir i'r esboniadau canlynol fod yn ganllaw yn hytrach nag yn ddiffiniadau cyfreithiol caeth o'r geiriau a ddefnyddir yn y ddogfen hon.

2 a. Os bydd unrhyw rai o blant yr ymadawedig yn marw o'i flaen ef neu hi, ac yn gadael plant eu hunain, (hynny ydy, wyrion neu wyresau'r ymadawedig), bydd yr wyrion a wyresau hynny rhyngddynt yn cael y rhan byddai eu mam neu eu tad wedi'i gael petaent yn dal yn fyw. Mae hyn yn berthnasol hefyd i frodyr a chwiorydd ac ewythrod a modrybedd yr ymadawedig y mae ganddynt blant - os bydd unrhyw un ohonynt hwy yn marw cyn yr ymadawedig, bydd y rhan y byddai ef neu hi wedi'i gael petai'n dal yn fyw, yn mynd i 'w blant ef neu hi rhyngddynt.

Mae'r egwyddor yn berthnasol drwy genedlaethau olynol - er enghraifft, bydd gor-ŵyr yn cael rhan o'r ystad os yw ei dad a'i daid (a oedd yn ŵyr ac yn fab i'r ymadawedig) wedi marw cyn yr ymadawedig.

^Brig

2 b. Defnyddir yr enghraifft isod i ddangos yr egwyddor ond, fel y gwelwch, gall canfod pwy sy'n cael beth fod yn gymhleth iawn, ac efallai y bydd angen cyngor cyfreithiol :

Roedd Thomas yn ŵr gweddw 89 oed pan fu farw heb adael ewyllys. Roedd wedi cael pedwar plentyn, John, Harry, Kate a Mary. Roedd John, Harry a Mary yn dal yn fyw, ond roedd Kate wedi marw ddwy flynedd cyn Thomas - roedd wedi gadael dwy ferch, ac roedd ei mab James eisoes wedi marw sawl blwyddyn yn ôl, gan adael dau fab bychan.

Mae ystad Thomas yn cael ei rhannu'n bedair rhan gyfartal. Mae John, Harry a Mary yn cael un rhan yr un. Mae'r rhan arall (a fyddai wedi mynd i Kate petai'n dal yn fyw) yn cael ei rhannu'n dair rhan gyfartal: mae ei dwy ferch yn cael un rhan yr un, ac mae'r rhan arall (a fyddai wedi mynd i James, mab Kate, petai ef dal yn fyw), yn mynd i'w ddau fab bychan yn gyfartal pan gyrhaeddant 18 oed. Ond, os bydd y naill neu'r llall o wyrion ifanc Kate yn marw cyn iddynt gyrraedd 18 oed, bydd ei ran ef yn mynd i'r llall.

^Brig

3. Os oes unrhyw un o'r sefyllfaoedd canlynol yn berthnasol, neu os oes gennych unrhyw amheuaeth, dylech ystyried cael cyngor cyfreithiol cyn dosbarthu ystad person sydd wedi marw heb adael ewyllys:

4. Rhaid i bartner priod neu bartner sifil fyw am o leiaf 28 diwrnod ar ôl yr ymadawedig cyn y bydd ganddo ef neu hi hawl i ran o'r ystad.

5. Ni fydd cyn-ŵr neu gyn-wraig neu gyn-bartner sifil (a oedd wedi ysgaru'n gyfreithiol oddi wrth yr ymadawedig neu yr oedd ei b/phartneriaeth sifil â'r ymadawedig wedi'i diddymu cyn dyddiad y farwolaeth) yn cael unrhyw beth o'r ystad dan reolau diewyllysedd, ond efallai y bydd ef/hi yn gallu gwneud hawliad dan Ddeddf Etifeddu (Darparu ar gyfer Teulu a Dibynyddion) 1975 drwy'r Llysoedd. Dylai unrhyw un sy'n dymuno gwneud hawliad ystyried cael cyngor cyfreithiol, gan nad yw'r hawliadau hyn yn syml o anghenraid ac yn aml gallant fod yn gostus.

6. Ni fydd unrhyw un dan 18 oed (ar wahân i bartner priod neu bartner sifil yr ymadawedig), yn cael ei ran ef neu hi o'r ystad nes y bydd yn 18 oed, neu'n priodi dan yr oed hwnnw. Rhaid cadw'r rhan mewn ymddiriedolaeth ar eu rhan tan y byddant yn 18 oed neu'n priodi.

7. Ar wahân i bartner priod neu bartner sifil yr ymadawedig, dim ond perthnasau gwaed, a'r rhai sy'n perthyn drwy fod wedi cael eu mabwysiadu'n gyfreithlon, sydd â hawl i gael rhan o'r ystad. Nid oes gan unrhyw un arall sy'n perthyn dim ond drwy briodas ac nid drwy waed (er enghraifft, llys-frawd neu lys-chwaer) hawl i ran o'r ystad.

8. Os bydd unrhyw un sydd â hawl i ran o'r ystad yn marw ar ôl yr ymadawedig ond cyn i'r ystad gael ei dosbarthu, bydd ei ran yn ffurfio rhan o'i ystad ef neu ei hystad hi ei hun ac fe'i dosberthir yn unol â thelerau ei ewyllys ei hun neu ddiewyllysedd.

9. Nid oes gan hen ewythrod a hen fodrybedd yr ymadawedig (sef brodyr a chwiorydd neiniau a theidiau'r ymadawedig) a'u plant hawl i ran o'r ystad.


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 25 October 2007 09:41. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .