English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Amlinelliad Protocol 2003 Cyfarwyddiadau Amrywiol Safonol Pecyn Gwybodaeth Protocol

Adnoddau pellach

Gwasanaethau Cyfreithiol Gweinyddiaeth Cyfiawnder

Adolygiad o'r Cynllun Ffioedd Teulu Graddedig


Canllaw cryno i'r newidiadau a ddaeth i rym ar 28 Chwefror 2005

Daeth yr adolygiad o'r Cynllun Ffioedd Teulu Graddedig i ben ym mis Gorffennaf 2004. Cytunwyd ar newidiadau i'r strwythur a'r cyfraddau. Nod y rhan fwyaf o'r newidiadau yw gwneud i'r taliadau adlewyrchu'r cymhlethdodau penodol a all godi mewn cyfraith teulu er mwyn ymateb i'r pryderon bod y cynllun, yn gyffredinol, yn rhy 'wastad' a bod ganddo gyfraddau is o lawer mewn meysydd fel achosion llareiddiad ategol. Ar ben hynny, bydd newid y ffordd y cyflwynir hawliadau'n gwella'r rhyngweithiad rhwng twrneiod a chwnsleriaid ac yn cyflymu'r broses.

Mae'r nodyn byr hwn yn amlinellu sut y caiff cwnsleriaid eu talu am waith o fewn y cynllun diwygiedig. Dim ond tystysgrifau newydd a gyhoeddir neu ddiwygiadau a wneir i ychwanegu achos newydd at dystysgrif gyfredol ar neu ar ôl 28 Chwefror 2005 sy'n berthnasol. Mae'r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol wedi cynhyrchu pecyn gwybodaeth fanylach sydd ar gael i gwnsleriaid. Mae hwn yn cynnwys diwygiadau i arweiniad y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol a newidiadau i'r cyfraddau.

Newid y ffordd y caiff cwnsleriaid eu talu

^Brig

Taliadau Mater Arbennig newydd a gyflwynir

Ychwanegir tri Taliad Mater Arbennig newydd ar gyfer cymhlethdodau gwahanol a gyfyd. Mae'r Taliadau Mater Arbennig newydd hyn yn berthnasol i'r holl gleientiaid a gynrychiolir gan gwnsler pan fo'n briodol ac a ddilysir gan y Barnwr neu'r Ynad yn unol â'r Gorchymyn Cyllido.

I gael diffiniadau llawn edrychwch ar Orchymyn y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol (Cyllido) (Cwnsleriaid mewn Achosion Teulu) (Diwygio) 2005 (O.S. 2005/184)

^Brig

Newidiadau eraill i'r cynllun

  1. mewn achosion pan roddwyd awdurdod ymlaen llaw ar gyfer defnyddio cwnsler neu pan gyfiawnhawyd yr awdurdod drwy asesiad, caiff ffioedd y cwnsler eu tau yn y swm ffi teulu graddedig; ac
  2. ym mhob achos arall cyfrifir ffioedd y cwnsler ar gyfraddau awr priodol y twrnai dan Reoliadau Cymorth Cyfreithiol mewn Achosion Teulu (Tâl) 1991.

Mae arweiniad a gwybodaeth gyffredinol am y cynllun, a rhagor o fanylion am y newidiadau a amlinellir uchod ar gael ar wefan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yn www.legalservices.gov.uk/.

Os hoffech dderbyn copi o'r pecyn gwybodaeth llawn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol am y newidiadau i'r Cynllun Ffioedd Teulu Graddedig, cysylltwch â Ruth Symons dros yr e-bost.

Os hoffech edrych ar ryngrwyd Gweinyddiaeth Cyfiawnder edrychwch ar http://www.justice.gov.uk/

Cangen Cymorth Cyfreithiol Sifil
Adran Gwasanaethau Cyfreithiol Cyhoeddus 1
Gweinyddiaeth Cyfiawnder
Chwefror 2005


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 25 June 2007 12:02. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .