Arolygu Gweinyddiaeth y Llysoedd
Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi (HMICA) yw'r corff statudol, annibynnol, dan arweiniad Prif Arolygwr gydag atebolrwydd uniongyrchol i'r Arglwydd Ganghellor.
Wrth gymryd yr awenau oddi wrth Arolygwyr y Gwasanaeth Llysoedd Ynadon, mae HMICA yn gyfrifol am arolygu trefniadaeth llysoedd y Goron, y llysoedd sirol a'r llysoedd ynadon, a swyddogaethau'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Llysoedd Plant a Theuluoedd (CAFCASS) yng Nghymru a Lloegr, a chyd-arolygu'r systemau cyfiawnder troseddol a hefyd cyd-adolygiadau Ardal o wasanaethau plant gydag arolygiaethau eraill. Mae hefyd yn arolygu Gwasanaeth Llys Gogledd Iwerddon drwy wahoddiad.
Bydd HMICA yn arolygu ac yn adrodd i'r Arglwydd Ganghellor ar y gwasanaethau a ddarperir gan y llysoedd ynadon, Llysoedd y Goron a'r llysoedd sirol. Bydd y Prif Arolygwr yn rhoi sicrwydd annibynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch gweithrediad gweinyddiaeth y llysoedd fel rhan o'r sicrwydd cyffredinol ar weithrediad a gweithdrefnau rheoli perfformiad Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi.
