English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Ein Canolfannau

Canolfan Cynhyrchu Hawliadau Canolfan Gorfodi Traffig Hawliad arian ar lein Swmp Ganolfan y Llysoedd Sirol System Ganolog - Taliadau Atafaelu Enillion (CAPS)

Gwybodaeth ychwanegol

Beth sy'n Newydd yn y Swmp Ganolfan Cwsmeriaid ag anableddau Cwynion Cynllun Gwasanaeth i Gwsmeriaid Cysylltu â Ni Ein Siarter Gwybodaeth am gyfradd ateb galwadau'r ddesg gymorth Recriwtio Sylwadau Cwsmeriaid

Swmp Ganolfan Northampton


Cynllun Gwasanaeth i Gwsmeriaid 2006 - 2007

Croeso i Gynllun Gwasanaeth i Gwsmeriaid 2006-2007.

Mae'r Swmp Ganolfan yn cynnwys pump prif faes gwaith:

Y Ganolfan Cynhyrchu Hawliadau
Swmp Ganolfan y Llysoedd Sirol
Y System Ganolog ar gyfer Taliadau Atafaelu Enillion
Money Claim OnLine (MCOL)
Y Ganolfan Gorfodi Traffig

Mae'r swyddfa hon yn dal i fod wedi ymrwymo i wasanaeth i gwsmeriaid ac yn gobeithio bod y ddogfen hon yn brawf o'n hymdrechion a'n nodau. O fewn cyfyngiadau cyllideb dynn, byddwn yn cynnal a, phan fo'n bosibl, yn gwella ein lefel o wasanaeth i gwsmeriaid ac yn darparu canlyniadau effeithiol ac effeithlon. Mae'r Swmp Ganolfan wrthi'n gweithio i ennill ailachrediad statws Nod Siarter (mae angen ailachrediad bob tair blynedd). Y Nod Siarter yw dyfarniad y Llywodraeth ar gyfer cydnabod a hybu rhagoriaeth mewn gwasanaeth cyhoeddus a byddwn bob amser yn ymdrechu i lynu wrth ei werthoedd.

Yn bennaf bydd y swyddfa hon yn mesur ei pherfformiad yn ôl safonau Siarter y Llysoedd a thargedau y cytunwyd arnynt yn lleol (mae llawer o brosesau a gwaith y Swmp Ganolfan yn unigryw yng Ngwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi) gyda'r nod o gyflawni perfformiad ar lefel gyson. Ein nod yw datblygu strategaeth ar gyfer darparu gwasanaeth i gwsmeriaid yn effeithiol, a fydd yn edrych ar y gweithdrefnau, yr arferion a'r cyfleusterau sydd eu hangen i gyflawni hyn. Byddwn yn mesur ein llwyddiant o ran diwallu disgwyliadau cwsmeriaid drwy holi croestoriad cynrychioladol o'n cwsmeriaid drwy arolygon holiadur ac adborth o gardiau sylwadau cwsmeriaid. Byddwn hefyd yn cadw cysylltiad personol rheolaidd â chwsmeriaid allweddol (e.e. drwy Gyfarfodydd Grŵp Defnyddwyr Swmp Ganolfan y Llysoedd Sirol), yn gwrando ar unrhyw bwyntiau a godir gan unrhyw un o'n cwsmeriaid ac yn cymryd camau'n ddiymdroi i roi sylw i unrhyw broblemau neu ddiffygion.

Caiff canlyniadau arolygon boddhad cwsmeriaid eu prosesu a bydd y tîm rheoli'n cytuno ar dargedau ar gyfer gwella.

Bydd y tîm rheoli'n trafod awgrymiadau ar gyfer gwelliannau a gwasanaethau newydd ac, os bydd angen, caiff y rhain eu trosglwyddo i fyny'r gadwyn er mwyn cael cytundeb polisi a gweithredu.

Nodau ac Amcanion

Bydd y Swmp Ganolfan yn gwella gwasanaethau i'n cwsmeriaid drwy:

1. Annog rhagor o gwsmeriaid GLlEM i ddefnyddio gwasanaethau'r Swmp Ganolfan;
2. Darparu cymorth a gwybodaeth berthnasol i ddefnyddwyr y Swmp Ganolfan;
3. Hyrwyddo swyddogaeth a materion gwasanaeth i gwsmeriaid ymysg y staff;
4. Gwella gweithdrefnau hyfforddi staff;
5. Darparu pwynt ffocws a gweithredu ar awgrymiadau a chwynion;
6. Rhoi cynlluniau gwasanaeth i gwsmeriaid ar waith mewn ffordd unffurf.

^ Brig

Y Cyfleusterau sydd ar gael i Gwsmeriaid

Cynigion Gwella ar gyfer 2006 -2007

^ Brig

Gwella

Monitro

Cynnal

Hyrwyddo


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 30 November 2006 12:50. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .