English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Cyhoeddi a'r Gofrestrfa Canllawiau Adran Mainc y Frenhines Cofiadur y Frenhines Cyfarwyddiadau Ymarfer Dyfarniadau a Gorchmynion Ffurflenni Gorchmynion Cyfreithiad Grŵp Gwaith arall Hysbysiadau Adran Mainc y Frenhines Mynegai Adran Mainc y Frenhines Proses Dramor Rhestr Ddyddiol Rhestr Wirio Cyn-treial Uned Cefnogi Meistri

Adran Dyfarniadau a Gorchmynion


Adran Gweithredu Adran Mainc y Frenhines, Uned Cefnogi Meistri a Phroses Dramor

Cyflwyno Gorchmynion Cydsynio | Gweithredoedd Newid Enw | Ffurflenni | Ffioedd | Cysylltu â Ni

Yr Adran Dyfarniadau a Gorchmynion sy'n ymdrin â'r broses o gofnodi Dyfarniadau a selio gorchmynion a wneir gan y Meistri neu'r Barnwyr, a chofnodi pob digwyddiad ar y System FfUL. Mae hefyd yn ymdrin ag archwilio a chofrestru dyfarniadau llysoedd sirol a'r broses o archwilio a chyflwyno gwritiau FiFa a gorfodi amrywiol. Yr adran hon hefyd sy'n gyfrifol am gofrestru gweithredoedd newid enw, cofrestru biliau gwerthu, dyledion llyfr, iawndal amodol, dyfarniadau cyflafareddu a rhestru arholiadau llafar.

Cyflwyno Gorchmynion Cydsynio

Pan gaiff Gorchmynion Cydsynio eu selio gan staff y llys, gofynnir i chi gwblhau Ffurflen Canslo PRA (Gorchmynion Cydsynio) (Word, 33Kb) (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg). Defnyddir y ffurflen hon i gadarnhau a oes gwrandawiad wedi'i restru ar hyn o bryd gerbron un o'r Meistri y mae angen ei ddad restru. Mae'n hanfodol llenwi'r ffurflenni hyn yn gywir er mwyn sicrhau na wastraffir amser barnwrol.

^ Brig

Gweithredoedd Newid Enw

Os dymunwch newid eich enw'n gyfreithiol, neu enwau eich plant, gallwch ddefnyddio'r broses Gweithred Newid Enw, sydd wedi'i defnyddio gan gannoedd o filoedd o bobl er dros 150 o flynyddoedd.

Drwy Weithred Newid Enw, gallwch newid unrhyw ran o'ch enw, neu'ch enw llawn, yn swyddogol. Er enghraifft, gallwch newid eich enwau cyntaf, eich cyfenw (neu'r ddau), ychwanegu enwau, tynnu enwau, sillafu'ch enwau'n wahanol neu ad-drefnu eich enwau presennol. Cewch newid eich enw mewn Gweithred Newid Enw mor aml ag y dymunwch, ar unrhyw adeg ac am unrhyw reswm cyn belled ag nad yw at ddibenion camarweiniol neu dwyllodrus.
Yn groes i'r gred gyffredinol, nid oes cofrestr ganolog o newidiadau enw yn y Deyrnas Unedig. Ni chedwir cofnod o Weithredoedd Newid Enw yn unman oni bai eu bod yn cael eu "cofrestru" h.y. yn cael eu cadw'n ddiogel yn Rholiau Caeedig y Siawnsri (o 1851 hyd 1902) ac o 1903 ymlaen, yn Llyfrau Cofrestru Goruchaf Lys y Farnwriaeth, sydd yn y Llysoedd Barn Brenhinol yn y Strand, Llundain.

Mae cofrestru Gweithred Newid Enw yn darparu cofnod cyhoeddus o newid enw person, ac er 1914, cyhoeddir manylion y newid enw naill ai yn y London Gazette neu'r Belfast Gazette.

Mae Gweithredoedd Newid Enw a gofrestrwyd yn y Llysoedd Barn Brenhinol yn Llundain yn aros gyda ni am bum mlynedd. Ar ôl hynny (ac yn ôl at 1851), gellir eu canfod yn yr Archifau Cenedlaethol, sydd wedi'u lleoli yn Kew yn Richmond, Surrey.

Am fwy o wybodaeth am gofrestru Gweithred Newid Enw, a ffurflenni sampl, darllenwch y canllaw sydd ynghlwm (Word, 334Kb) (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg).

^ Brig

Ffurflenni

Gellir lawrlwytho ffurflenni hawlio o'r Darganfyddwr Ffurflenni. Gallwch lenwi rhai ohonynt ar-lein, ond bydd angen i chi eu hargraffu a'u postio atom.

^ Brig

Ffioedd

Dylid gwneud sieciau, archebion post a drafftiau bancwyr yn daladwy i GLlEM. Mwy o wybodaeth am ffioedd y Llys (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg). Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn yr Atodlen Costau Sefydlog (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg), sy'n pennu'r symiau sydd i'w caniatáu, oni bai bod y llys yn gorchymyn fel arall, ar gyfer costau twrneiod ynghyd â ffi'r llys, pan fo'n briodol.

^ Brig

Manylion Cysylltu

Adran Dyfarniadau a Gorchmynion
Ystafell E15-17
Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL

DX 44450 Strand

Rhif ffôn: 020 7947 6221
Ffacs: 020 7947 6807


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 28 November 2007 12:59. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .