English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Cyhoeddi a'r Gofrestrfa Canllawiau Adran Mainc y Frenhines Cofiadur y Frenhines Cyfarwyddiadau Ymarfer Dyfarniadau a Gorchmynion Ffurflenni Gorchmynion Cyfreithiad Grŵp Gwaith arall Hysbysiadau Adran Mainc y Frenhines Mynegai Adran Mainc y Frenhines Proses Dramor Rhestr Ddyddiol Rhestr Wirio Cyn-treial Uned Cefnogi Meistri

Adran Cyhoeddi a'r Gofrestrfa


Adran Gweithredu Adran Mainc y Frenhines, Uned Cefnogi Meistri a Phroses Dramor

Canllaw Cryno i'r adran | Cychwyn Hawliadau | Cydnabyddiaeth | Amddiffyniadau/Derbyn | Gohebiaeth | Holiaduron Dyrannu | Chwiliadau | Ceisiadau am Gopi Swyddfa | Cownter | Copïau Swyddfa | Ffurflenni | Ffioedd

Mae'r Adran Cyhoeddi a'r Gofrestrfa'n archwilio ac yn cyhoeddi ffurflenni hawlio a gyflwynir gan dwrneiod ac ymgyfreithwyr lle mae dyledion dros £15,000.00 yn daladwy iddynt. Unwaith y caiff y manylion ar y ffurflen hawliad eu gwirio, dyrennir rhif gweithredu, a chofnodir y manylion ar System Ffurflenni'r Uchel Lys (SFfUL). Mae hefyd yn ymwneud â diwygio ffurflenni hawlio, cychwyn hawliadau Rhan 20 a chyflwyno gwysion tystion. Yr adran hon sydd hefyd yn gyfrifol am ffeilio cydnabyddiaeth, addefiadau/addefiadau rhannol, amddiffyniadau ac amddiffyn a gwrth-hawliad a gyflwynir gan y diffynyddion mewn achos, ac am gofnodi pob cofnod ar system FfUL. Mae hefyd yn ymdrin â gwirio a chyflwyno holiaduron dyrannu, trosglwyddo achosion i mewn ac allan, a chofnodi a ffeilio tystysgrifau Cymorth Cyfreithiol, hysbysiadau, tystysgrifau cyflwyno a dogfennau amrywiol. Ymdrinnir â goruchwylio chwiliadau cyhoeddus a cheisiadau am gopïau swyddfa o ddogfennau hefyd yn yr adran hon. Yr adran hon sy'n gyfrifol am storio a chynnal a chadw ffeiliau'r llys, gan sicrhau bod pob ffeil yn hawdd ei chanfod ac yn hygyrch i staff priodol y llys.

Canllaw byr i waith Adran y Gofrestrfa

Mae adran y Gofrestrfa wedi'i lleoli yn ystafell E07 a hi fel arfer yw'r pwynt cyswllt cyntaf pan fyddwch yn cychwyn achosion yn Adran Mainc y Frenhines.

Mae'r dyletswyddau a gyflawnir gan staff y Gofrestrfa'n disgyn, yn fras, i'r categorïau canlynol:

Cychwyn Hawliadau

Os oes ar rywun arian i chi ac na allwch chi setlo pethau drwy unrhyw ddull arall, gallech benderfynu cychwyn hawliad drwy'r llys. Cewch gychwyn eich hawliad mewn unrhyw lys, ond dim ond yn yr Uchel Lys os yw eich hawliad am fwy na £15,000. (bydd taflenni EX301 ac EX302 o gymorth). Bydd angen i chi gwblhau ffurflen N1, sydd ar gael am ddim o unrhyw lys sirol. Gyda'r ffurflen hon, fe ddylech hefyd gael nodiadau cyfarwyddyd i chi'ch hun (yr hawlydd) ynghylch sut i lenwi'r ffurflen, a nodiadau cyfarwyddyd i'r diffynnydd (yr unigolyn, y ffyrm neu'r cwmni rydych chi'n hawlio yn ei erbyn). Unwaith i chi lenwi'r Ffurflen, dylech ei llungopïo ynghyd â nodiadau cyfarwyddyd y diffynnydd fel bod gennych chi:

Bydd angen i chi bostio'r N1, y copïau a'r ffi berthnasol neu'r ffurflen dileu'r ffi/esemptio rhag talu'r ffi (gweler Gorchymyn Ffioedd), neu fynd â hwy at y cownter yn ystafell E07. Ar ôl eu prosesu, dychwelir y dogfennau i chi i'w cyflwyno (eu postio at y diffynnydd) oni bai eich bod yn gwneud cais fel arall.

Wrth ffeilio hawliad, gwnewch yn siŵr o'r canlynol:

^ Brig

Cydnabyddiad

Mae ffeilio'r cydnabyddiad cyflwyno N9 yn rhoi mwy o amser i chi geisio cyngor a chwblhau'ch amddiffyniad (Taflen EX305) Os ffeiliwch gydnabyddiad cyflwyno o fewn 14 diwrnod i gyflwyno manylion hawliad, mae hyn yn ymestyn yr amser ar gyfer ffeilio amddiffyniad i 28 diwrnod o gyflwyno manylion yr hawliad. Bydd y Gofrestrfa yn cofnodi hyn ar System Ffurflenni'r Uchel Lys, i sicrhau na roddir dyfarniad yn eich erbyn yn ystod y cyfnod hwn. Byddant hefyd yn hysbysu'r diffynnydd o'ch bwriadau a chyfeiriad eich twrnai, os oes gennych un.

^ Brig

Amddiffyniad

Rhaid i chi lenwi ffurflen N9B (os yw'r hawliad am swm penodol) neu Ffurflen N9D (os yw'r hawliad am swm amhenodol).
Pa ffurflen bynnag a lenwch, rhaid i chi sicrhau ei bod yn cyrraedd y llys (gelwir hyn yn ffeilio) ddim hwyrach na 14 diwrnod ar ôl y dyddiad pan gyflwynwyd manylion yr hawliad i chi. 28 diwrnod os ydych chi wedi ffeilio cydnabyddiad cyflwyno. Os na wnewch chi hyn, gall yr hawlydd ofyn i'r llys gofnodi dyfarniad, sef, gwneud gorchymyn i chi dalu'r swm a hawlir, neu eich bod yn atebol am dalu swm sydd i'w bennu gan y llys. Bydd staff y Gofrestrfa yn cofnodi eich amddiffyniad ar System Ffurflenni'r Uchel Lys ac yn hysbysu'r hawlydd ei bod wedi'i ffeilio; byddant hefyd yn anfon holiadur dyrannu i'w lenwi gan y ddau barti.

^Brig

Derbyn

Os byddwch chi'n addef yr hawliad ac yn dymuno talu'r arian ar unwaith, bydd angen i chi anfon eich tâl at yr hawlydd ddim hwyrach na 14 diwrnod ar ôl i chi dderbyn manylion hawliad yr hawlydd. Os na wnewch chi hyn, efallai y bydd yr hawlydd wedi gofyn i'r llys gofnodi dyfarniad yn eich erbyn. Os ydych chi'n addef bod yr arian yn ddyledus gennych, ond na allwch chi fforddio'i dalu i gyd ar unwaith, gallwch ofyn am amser i dalu. Bydd angen i chi lenwi ffurflen N9A ac anfon y ffurflen at yr hawlydd. Os byddwch yn addef hawliad am swm amhenodol o arian, dylech lenwi N9C a'i hanfon i'r llys. Gelwir hyn yn 'addef atebolrwydd' (cyfrifoldeb) am dalu. Yna, bydd y llys yn anfon copi o'ch ffurflen addefiad at yr hawlydd ac yn ei chyfeirio at Feistr i gael dyddiad gwrandawiad.

^ Brig

Holiadur Dyrannu

Pan gaiff hawliad ei wrthwynebu ac amddiffyniad ei ffeilio, bydd y Gofrestrfa'n anfon holiadur dyrannu at bob parti (bydd taflen EX305 yn egluro) Defnyddir yr holiadur dyrannu gan y Meistr i wneud penderfyniad ynghylch sut i reoli'r achos yn y dyfodol, a bydd dyddiad ar gornel chwith yr holiadur i nodi pryd i'w ddychwelyd i'r llys. Ar y dyddiad hwn, cyfeirir y ffeil a'r holiaduron dyrannu i'r Meistr am gyfarwyddiadau pellach

^ Brig

Gohebiaeth

Mae'r Gofrestrfa'n derbyn nifer o wahanol eitemau gohebiaeth sy'n ymwneud â'r uchod, yn ogystal â hysbysiadau amrywiol megis hysbysiad newid twrnai, tor parhad, ymestyn amser ar gyfer ffeilio gwahanol ddogfennau, Affidafidau a datganiadau tystion, i'w gosod ar ffeil y llys, ceisiadau rhan 18 a hysbysiad taliadau i mewn ac allan o'r llys.
Cofnodir pob gohebiaeth ar y cyfrifiadur (pan fo angen)

^ Brig

Cownter

Mae'r cownter cyhoeddus ar agor rhwng 10am a 4.30pm. Mae nifer o ymgyfreithwyr a chlercod twrneiod yn cyflwyno eu dogfennau wrth y cownter. Mae hyn yn galluogi'r clercod i archwilio'r dogfennau a nodi unrhyw gywiriad angenrheidiol.

^ Brig

Chwiliadau

Os ydych chi'n dymuno gwybod a oes hawliad wedi'i gyflwyno neu fod arnoch angen darganfod rhif hawliad, byddai angen i chi wneud chwiliad cyhoeddus. Cynhelir chwiliadau â llaw wrth y cownter yn ystafell E07. Mae pob chwiliad yn costio £5. Ar ôl cynnal chwiliad, cewch archebu copïau swyddfa o ddogfennau o gofnod y llys. Gweler hefyd y canllawiau amgaeëdig am fanylion pellach am sut i gynnal chwiliad cyhoeddus (Word, 24Kb) (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg).

^ Brig

Copïau Swyddfa

Caiff holl ffeiliau Mainc y Frenhines eu storio yn yr Adran Cyhoeddi a'r Gofrestrfa. Os ydych chi'n dymuno cael copi o ddogfen o ffeil y llys, bydd angen i chi dalu ffi briodol - ar hyn o bryd, £1 am dudalen gyntaf unrhyw ddogfen ac 20c am unrhyw dudalennau wedi hynny. Bydd gofyn i chi hefyd lenwi ffurflen gais am gopi swyddfa. Mae un ffurflen ar gyfer partïon yr achos ac un arall ar gyfer pawb arall.
Bydd angen i chi ddod â'r ffurflen gywir wedi'i llenwi a'r ffi gyda chi (neu eu postio) i Ystafell E07.
Noder bod darparu dogfennau o ffeil y llys yn ddarostyngedig i Reol 5.4 y Rheolau Trefniadaeth Sifil.

Caiff partïon mewn achosion y dogfennau canlynol heb orfod ceisio caniatâd:

Caiff unrhyw berson sydd DDIM yn barti mewn achos gael y dogfennau canlynol heb geisio caniatâd cyn belled â bod cydnabyddiad neu amddiffyniad wedi'i dderbyn gan bob diffynnydd ar y cofnod, bod dyfarniad wedi'i gychwyn neu fod dyddiad gwrandawiad wedi'i bennu (nid ar gyfer cyfarwyddiadau):

Rhaid ceisio caniatâd gan Feistr ar gyfer copïau o unrhyw ddogfen arall, neu mewn achosion pan fo mwy nag un diffynnydd ac nad ydynt i gyd wedi cychwyn cydnabyddiad neu amddiffyniad. Rhaid ceisio caniatâd drwy rybudd cyflwyno cais.

^ Brig

Ffurflenni

Gellir lawrlwytho ffurflenni hawlio o'r Darganfyddwr Ffurflenni. Gallwch lenwi rhai ohonynt ar-lein, ond bydd angen i chi eu hargraffu a'u postio atom.

^ Brig

Ffioedd

Dylid gwneud sieciau, archebion post a drafftiau banc yn daladwy i GLlEM.
Mwy o wybodaeth am ffioedd y Llys (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg).

^ Brig

Manylion Cysylltu

Adran Cyhoeddi a'r Gofrestrfa
Ystafell E07
Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL
DX 44450 Strand
Ffôn: 020 7947 6336
Ffacs: 020 7947 6807


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 16 November 2006 16:06. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .